Bedydd Wicaidd

Mae bedydd Wicaidd (Saesneg: Wiccaning) yn seremoni neu ddefod Wicaidd sydd yn gydweddol i fedydd Cristnogol ar gyfer babi lle'i gyflwynir i'r Duw a'r Dduwies am amddiffyniad.

Mae bedyddiadau Wicaidd yn perthyn i Wica'n benodol, ond dethlir seremonïau tebyg o fewn crefyddau Neo-baganaidd eraill. Saenio (o'r hen Saesneg Sain, sydd yn golygu bendithio, cadw draw o ddylanwad drwg) yw'r enw a roddir i'r seremonïau tebyg hyn.[1]

  1. Gweler y ddefod Dderwyddol am enghraifft. Ár nDraíocht Féin: A Druid Fellowship (ADF) (2010). Naming and Saining the Baby - ADF Neopagan Druidism (ar-lein). Cyrchwyd 8 Ebrill 2010

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search